AnnHUGHESGlenys Dymuna Bernant, Glyn ac Anwen a'i theulu ddiolch yn gywir iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn y brofedigaeth a ddaeth i'w rhan yn ddiweddar. Cydnabyddir yn ddiffuant waith arbennig y meddygon a'r nyrsys yn Ysbytai Glan Clwyd a Rhuthun, ei meddyg teulu Dr Sian Woodward, a'i gofalwraig Lena Edwards yn ystod cystudd hir Glenys. Ddiolchwn yn arbennig am wasanaeth bendithiol ac urddasol ein gweinidog y Parchg Graham Floyd yn yr Amlosgfa ac yng nghapel Pendref, ac am y gweinidogion a'i gynorthwyodd yno. Gwerthfawrogwn yn fawr gyfraniad yr organyddes Gwenda Jones. Fe'n cysurwyd i weld cymaint o gymdogion, aelodau Pendref, perthnasau a chyfeillion a ddaeth o bell ac agos i dalu'r gymwynas olaf i Glenys. Diolch am y cyfraniadau hael er cof amdani tuag at waith yr NACC ac i'r Brodyr Dowell am eu trefniadau trylwyr a'u gwasanaeth cyfeillgar. Ac i Dduw y bo'r diolch am gymorth parod i ni yn ein galar a'n hiraeth.
Keep me informed of updates